Ewch ar chwilfa natur
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl gysylltu â natur. Gall cymryd ennyd bob dydd i sylwi ar a gwerthafwrogi’r natur o’n hamgylch wella ein tymer a lleihau straen*.
Felly hoffem eich annog i fynd ar #NatureQuest.
Cymrwch ennyd bob dydd i sylwi ar natur o’ch amgylch.
Beth welwch chi pan… gymerwch chi eiliad i edrych i fyny, i fyny o’ch traed, neu i fyny o’ch ffôn?
- Amlinelliad coeden yn erbyn yr awyr
- Planhigyn yn glynu wrth y brics yn uchel ar ochr adeilad
- Mwsogl yn tyfu mewn landar ar adeilad
Beth welwch chi pan… gymerwch chi eiliad i edrych i lawr, plygu i lawr, gorwedd i lawr?
- Gwreiddiau coeden yn gwthio trwy’r tarmac
- Planhigyn bychan bach yn tyfu mewn hollt yn y palmant
- Ffyngau’n dringo ar hyd troed wal
Beth welwch chi pan… fyddwch chi’n aros am eich bws, neu’n aros i’ch paned fwydo?
- Planhigion dieithr mewn gwely blodau
- Gwenynen yn ymweld â blodyn
- Coeden afalau’n llawn ffrwythau wrth ymyl rheilffordd
Gwenwch a pharhau â’ch diwrnod!
Talwch sylw i natur trwy’r tymhorau a rhannu’r hyn welwch chi gyda ni @GrowWildUK gan ddefnyddio #NatureQuest.
*Mae amrywiaeth eang o ymchwil ar gael am hyn. Er enghraifft, The physiological effects of Shinrin-yoku (taking in the forest atmosphere or forest bathing), a gyhoeddwyd yn Environmental Health and Preventive Medicine.