Geirfa blodau gwyllt
B
Bioamrywiaeth – yr amrywiaeth o fywyd (yn blanhigion, bodau dynol, anifeiliaid, pryfetach, meicrobau) mewn man penodol, rhanbarth neu’r byd i gyd.
C
Compost – sylwedd o blanhigion neu anifeiliaid, sydd wedi ei dreulio neu sydd wedi pydru, a ddefnyddir i gyfoethogi’r pridd â maetholion a sylweddau organig.
Croesbeillio – atgynhyrchiad rhywiol mewn planhigion, pryd y trosglwyddir paill o un blodyn i’r llall gan y gwynt neu gan bryfyn.
Cynefin – man ble fo cymuned o blanhigion ac anifeiliaid yn bodoli.
Ch
Chwynladdwr – sylwedd cemegol a ddefnyddir i ladd planhigion diangen (chwyn).
D
Deiliach – enw arall am ddail.
Di-haint – rhywbeth sy’n rhydd o bob maetholyn neu organebau byw.
Dôl – ardal o laswelltir sy’n llawn blodau gwyllt a reolir mewn modd traddodiadol gydag anifeiliaid sy’n pori.
E
Ecosystem – casgliad o bethau byw, a phethau sydd ddim yn fyw, sydd i gyd yn dibynnu ar ei gilydd i oroesi. Gall ecosystemau fod yn fawr neu’n fach.
Eginiad – pan fo hedyn yn egino ac yn troi’n eginblanhigyn (planhigyn ifanc).
Ff
Ffawna – yr anifeiliaid, yn cynnwys pryfetach, sy’n byw mewn ardal benodol.
Fflora – y planhigion sy’n tyfu mewn ardal benodol.
Ffosfforws – maetholyn sy’n gwella perfformiad llawer o gnydau a phlanhigion sy’n tyfu’n gyflym.
G
Gwrtaith – unrhyw sylwedd a ddefnyddir i gyfoethogi’r maetholion yn y pridd er mwyn hybu tyfiant planhigion.
H
Hadlestr – pan fo blodyn yn marw’n ôl, wedi ei ffrwythloni, a throi’n ffrwyth sy’n cynnwys hadau.
Hau – term a ddefnyddir i ddisgrifio gwasgar hadau.
Hau uniongyrchol – hau hadau yn syth ar y ddaear (yn hytrach na mewn potyn yn llawn compost).
Hedyn – cynnyrch atgynhyrchiad rhywiol mewn planhigion sy’n blodeuo. Mae hadau’n galluogi planhigion i oroesi amodau anffafriol o un genhedlaeth i’r nesaf gan oroesi’n y pridd, yn aml am nifer o flynyddoedd, cyn iddynt egino a thyfu’n blanhigion newydd.
L
Larfâu – cyfnod yng nghylch bywyd pryfetach, rhwng bod yn ŵy a bod yn oedolyn.
Ll
Llabed deilen – blaen deilen (mae gan rai dail fwy o labedi na’i gilydd).
Llysleuen – pryfyn bychan, a elwir weithiau’n gleren werdd neu’n gleren ddu, sy’n sugno sudd o blanhigion.
M
Maetholion – y cemegion y bydd unrhyw beth byw eu hangen i dyfu a goroesi.
Meicrobau – organebau bychan iawn, yn cynnwys bacteria a sborau ffyngaidd, sy’n rhy fychan i’w gweld â’r llygad noeth – maent yn hanfodol ar gyfer yr holl fywyd sydd ar y ddaear.
N
Neithdar – hylif llawn siwgwr a gynhyrchir gan blanhigion sy’n fwyd ar gyfer gwenyn, ieir bach yr haf a llawer o bryfetach eraill.
Nitrad – maetholyn a geir yn aml mewn pridd, sy’n hanfodol ar gyfer twf planhigion.
Nosol – yn weithgar yn bennaf gyda’r nos, yn hytrach nag yn ystod y dydd.
P
Paill – powdwr a gynhyrchir gan flodau sy’n cario’r hyn sy’n cyfateb i sberm mewn anifeiliaid. Gellir ei drosglwyddo o un blodyn i un arall gan anifeiliaid, pryfetach, y gwynt, neu hyd yn oed ddŵr.
Peilliwr – pryfyn neu anifail sy’n symud paill o un blodyn i’r llall fel rhan o broses atgynhyrchu planhigion.
pH pridd – mesur asidrwydd neu alcalinedd yn y pridd. Mae’r raddfa pH yn amrywio o 0 i 14, gyda 7 yn niwtral. Mae lefel pH islaw 7 yn asidig ac uwchlaw 7 yn alcalin.
Plaladdwr – unrhyw sylwedd a ddefnyddir i ladd neu reoli pryfetach diangen, neu blâu gardd eraill.
Planhigyn brodorol – planhigyn sy’n tarddu o, ac sy’n tyfu’n naturiol mewn gwlad benodol ac sydd heb ei gyflwyno o rywle arall.
Planhigyn parhaol – planhigyn sy’n byw am ddwy flynedd neu hwy, yn aml iawn yn marw’n ôl yn y gaeaf ac yn deffro eto bob gwanwyn.
Planhigyn unflwydd – planhigyn sy’n cwblhau ei gylch bywyd cyflawn mewn un flwyddyn.
Potasiwm – maetholyn a geir yn aml mewn pridd sy’n hanfodol ar gyfer datblygu gwreiddiau planhigion.
S
Sensitif i uwchfioled – rhywbeth gaiff ei effeithio, mewn rhyw fodd, gan faint o heulwen y mae’n ei dderbyn.
Sugnydd – trwyn, trwnc neu diwb pryfyn neu anifail a ddefnyddir i sugno bwyd.
U
Uwchbridd – yr haen uchaf, llawn maetholion (tua’r 15-20 cm cyntaf) o glwt o ddaear. Mae modd prynu uwchbridd.