Sut i dyfu eich ffyngau eich hun
Mae gan ffyngau yn y gwyllt eu bywyd eu hunain. Gall fod yn anodd iawn adnabod madarch (neu unrhyw ffwng), o leiaf heb ficrosgop a llawlyfr da.
Am y rheswm hwn, rydym yn argymell yn gryf na ddylech gasglu madarch yn y gwyllt!
Ond os oes gennych wir ddiddordeb mewn tyfu ffyngau fydd yn cynhyrchu madarch y gallwch eu bwyta yn y tymor hir, gallech roi tro ar eu tyfu.
Mae eu tyfu’n ffordd wych hefyd o annog twf ffyngau yr ydych yn credu sy’n neilltuol o hardd neu ddiddorol, os nad ydych am eu tyfu i’w bwyta.
Tyfu ffyngau
Mae tyfu ffyngau’n golygu creu amgylchedd warchodedig ble y galwch reoli pa ffyngau fydd yn tyfu a chynhyrchu madarch, er mwyn lleihau’r risg y bydd ffyngau anghyfarwydd neu beryglus yn tyfu.
Byddwch angen:
- lle i’r ffwng dyfu
- swbstrad (h.y. bwyd) y gall y myseliwm ffwngaidd ei fwyta a thyfu arno – mae’n bwysig iawn i’r swbstrad yma gael ei drin yn gywir trwy ei basteureiddio neu ei ddiheintio
- grawn ffwngaidd, sef y myseliwm ar gyfer pa bynnag hil o ffwng yr hoffech ei dyfu
O ran dewis lle i’r ffyngau dyfu, gellir dod o hyd i hwn yn eich cartref neu’r ardd, er enghraifft, gallech hyd yn oed dyfu eich ffwng mewn llyfr! Er, dylid sicrhau na fyddai’r inc a ddefnyddiwyd ynddo’n pasio rhinweddau niweidiol ymlaen…
Un o’r mannau mwyaf poblogaidd i dyfu ffyngau yw ar foncyffion, a elwir yn “foncyffion madarch”, er bod opsiynau eraill.
Darllenwch fwy am y gwahanol ffyrdd y gallech dyfu ffyngau (dolen allanol)
Cyflenwyr tyfu madarch
Sylwer: nid ydym yn gyfrifol am safon na phrofiad unrhyw gyflenwyr trydydd parti. Awgrymiadau’n unig geir yn y rhestr at eich dibenion ymchwil personol chi; mae cyflenwyr eraill ar gael hefyd.
Rhybuddion pwysig:
- Nid yw’r holl ffyngau a gyflenwir gan y cyflenwyr hyn yn frodorol i neu’n cael eu tyfu yn y DU, felly efallai yr hoffech eu holi am hyn. Fel gyda rhywogaethau planhigion, mae perygl y bydd rhywogaethau estron yn cystadlu gyda’n poblogaeth frodorol, felly rydym yn argymell tyfu ffyngau’n gyfrifol.
- Cymerwch ofal os y penderfynwch geisio tyfu Ysgwydd Felen, gan ein bod yn gwybod i’r rhain wenwyno pobl ym Mhrydain.
- Nid ydym yn argymell tyfu Pigau Barfog (Hericium erinaceus) gan ei bod yn rhywogaeth warchodedig yn y DU.
Ann Miller’s Speciality Mushrooms
Dylai eich cyflenwr ddarparu canllaw ar ddefnyddio eu cynnyrch. Cofiwch lynu at gyfarwyddiadau’r cyflenwr!
Pryd yw’r amser gorau i dyfu ffyngau?
Yn wahanol i hau hadau neu blannu coed, nid oes amser delfrydol o’r flwyddyn i gychwyn tyfu ffyngau.
Bydd tymheredd, lleithder a’r swbstrad yr ydych yn ei defnyddio i gyd yn effeithio ar eich llwyddiant, felly glynwch at y cyfarwyddiadau a ddarperir gan eich cyflenwr a chadwch lygad ar sut mae eich ffwng yn dod ymlaen.
Beth os ydw i ond eisiau ychydig o fadarch?
Os oes gennych fwy o ddiddordeb cynhyrchu cnwd unigol o fadarch, yn hytrach na meithrin ffwng allai gynhyrchu madarch dros nifer o flynyddoedd, mae gwahanol fathau o becynnau ar gael.
Mae’r pecynnau hyn yn cynnwys myseliwm ffwngaidd sydd wedi ei ddatblygu’n barod ac mewn cyflwr ble bydd creu amgylchedd cynnes, llaith yn annog madarch i ffrwytho.
Sylwer: bydd rhaid ichi waredu’r swbstrad wedi ei ddefnyddio unwaith ichi fedi eich madarch. Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn!
Pecynnau tyfu madarch
Sylwer: nid ydym yn gyfrifol am safon na phrofiad unrhyw gyflenwyr trydydd parti. Awgrymiadau’n unig geir yn y rhestr at eich dibenion ymchwil personol chi; mae cyflenwyr eraill ar gael hefyd.
Urban mushrooms (by YMCA Newcastle)
Rhywogaethau gwarchodedig
Mae “rhywogaeth warchodedig” yn golygu bod rhywogaeth wedi ei gwarchod gan y gyfraith, oherwydd ei bod yn brin neu mewn perygl. Os ydych am ymgymryd â gweithgaredd allai effeithio ar rywogaeth warchodedig, byddwch angen trwydded, neu fod mewn perygl o dorri’r gyfraith.
Unrhyw gwestiynau?
Dydyn ni ddim yn arbenigwyr ar dyfu ffyngau, felly allwn ni ddim cynnig cyngor chi. Ond mae gennym grŵp Facebook ar gyfer tyfwyr ffwng, ble y cewch hyd i bobl o’r un anian i rannu profiadau a syniadau.